Current

Who are we?

Events

9to90

Store

Archive

GS Artist soup talks

Artist At Work

9to90 Events

Home and Away

Get in touch

Call Out!

Deaf people: Become a BSL Tour Guide in Wales!

Are you a Deaf person with good BSL skills? 

Are you interested in becoming a BSL Tour Guide of Art, History & Culture?

Our Visual World & Artes Mundi is Looking For:

A Deaf led team of BSL Tour guides want to train six Deaf people in Wales who have a passion to deliver talks in BSL on a range of topics..  We are not looking for Art experts but you have to have a passion.

What do we want?

Our Deaf led training team want to create a group of confident BSL Tour Guides working in Art and Museums all over Wales

You will be the first group of trained Deaf people taking part and we hope to increase the numbers of Deaf people becoming BSL tour guides in the future and through that the number of Deaf people who attend museums and galleries in Wales

We want to promote BSL and Deaf Culture in the visual arts and everywhere!

About Our Visual World:

Our Visual World is a new network for Deaf creatives based in South Wales – 

About Artes Mundi:

Artes Mundi is an international visual arts organisation for Wales based in Cardiff, UK.

Artes Mundi is committed to working with artists whose work engages with social reality and lived experience. 

Every two years The Artes Mundi has an exhibition and gives out awards.  It also runs public programmes, co-creative community partnerships, projects and commissions.

Who Can Apply:

Deaf BSL users living in Wales.

Training Delivered by:

John Wilson

 Rubbena Aurangzeb-Tariq

Training Dates:

Between November 2023 and January 2024

Location:

x5 sessions online (1 hour 15 mins in total)

x2 full day sessions in person at Artes Mundi 10 venues

How to Apply:

You can apply by sending us a BSL video of why you want to be a Tour Guide, perhaps discussing an art work or something from a museum that interests you. 

You are welcome to send us this via WeTransfer, DropBox, GoogleDrive or WhatsApp on request.

Still unsure? Contact us by email to ask questions and for more information .

Contact – [email protected] 

Let us know which Artes Mundi 10 venue and location in list is nearest to where you live:

Amgueddfa Cymru/National Museum, Cardiff 

Chapter, Cardiff

Glynn Vivian Art Gallery, Swansea  

Mostyn, Llandudno

Oriel Davies Gallery, Newtown

What opportunities you will get in this project?:

  • Being a Deaf BSL Tour Guide you will enable Deaf people to enjoy cultural experiences.
  • It will open your door to career opportunities in tourism, hospitality, education, and advocacy.
  • Become a champion for Deaf accessibility, creating a more inclusive world where BSL is visible.

Why Learn to Be a BSL Tour Guide:

  • The skills you learn will be useful to your other work.
  • You will learn how to empower Deaf BSL users with information and services.
  • Advocate for Deaf BSL accessibility in your community.
  • It will enhance your communication and leadership skills.

MORE INFORMATION HERE-

Galwad Agored 

Pobl Fyddar: Dewch yn Dywysydd BSL yng Nghymru! 

Ydych chi’n berson byddar â sgiliau BSL da? Oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Dywysydd BSL ar gyfer Celf, Hanes a Diwylliant? 

Mae Ein Byd Gweledol ac Artes Mundi yn Chwilio Am: 

Mae tîm o dywyswyr teithiau BSL wedi’i harwain gan bobl Fyddar yn awyddus i hyfforddi chwech o bobl Fyddar yng Nghymru sy’n angerddol am gyflwyno sgyrsiau mewn BSL ar amrywiaeth o bynciau. Nid ydyn ym chwilio am arbenigwyr celf ond mae’n rhaid i chi deimlo’n angerddol am y pwnc. 

Am beth ydyn ni’n chwilio? 

Mae ein tîm hyfforddi a gaiff ei arwain gan bobl Fyddar yn awyddus i greu grŵp o Dywyswyr Taith BSL hyderus i weithio mewn lleoliadau Celf ac Amgueddfeydd ledled Cymru. Chi fydd y grŵp cyntaf o bobl Byddar hyfforddiedig i gymryd rhan ac rydym yn gobeithio cynyddu’r nifer o bobl Byddar sy’n dod yn arweinwyr teithiau BSL yn y dyfodol a thrwy hynny y nifer o bobl Byddar sy’n mynychu amgueddfeydd ac orielau yng Nghymru. 

Rydym yn awyddus i hyrwyddo Diwylliant BSL a Byddar yn y celfyddydau ac ymhobman! 

Ynglŷn ag Ein Byd Gweledol:

Rhwydwaith newydd ar gyfer pobl greadigol Byddar yn Ne Cymru yw Ein Byd Gweledol –

Ynglŷn ag Artes Mundi:

Sefydliad celf weledol rhyngwladol i Gymru wedi’i leoli yng Nghaerdydd yw Artes Mundi. 

Mae Artes Mundi yn ymrwymo i weithio gydag artistiaid y mae eu gwaith yn ymwneud â realiti cymdeithasol a phrofiad bywyd. 

Mae arddangosfa a gwobrau Artes Mundi yn digwydd bob dwy flynedd. Maen nhw hefyd yn cynnal rhaglen gyhoeddus, partneriaethau allu creu ar y cyd â chymunedau, yn ogystal â phrojectau a chomisiynau. 

Pwy All Ymgeisio:

Defnyddwyr BSL Byddar yng Nghymru.

Arweinwyr yr Hyfforddiant:

John Wilson

Rubbena Aurangzeb-Tariq 

Dyddiadau’r Hyfforddiant:

Rhwng Tachwedd 2023 a Ionawr 2024

Lleoliad:

x5 sesiwn ar-lein (1 awr 15 munud i gyd)

x2 ddiwrnod llawn, wyneb yn wyneb, yn lleoliadau Artes Mundi 10 

Sut i Ymgeisio:

Gallwch wneud cais drwy anfon fideo BSL atom yn cynnwys y rhesymau pam yr hoffech fod yn Arweinydd Teithiau, efallai yr hoffech drafod darn o gelf neu rywbeth o gasgliad amgueddfa sy’n eich diddori fel rhan o’r cais. 

Mae croeso i chi anfon hwn atom dros WeTransfer, DropBox, GoogleDrive neu WhatsApp ar gais. 

Dal yn ansicr? Cysylltwch â ni dros ebost i ofyn cwestiynau ac i gael mwy o wybodaeth.

Cyswllt – [email protected]

Rhowch wybod i ni pa leoliad Artes Mundi 10 sydd agosaf at eich cartref:

–        Amgueddfa Cymru, Caerdydd

–        Chapter, Caerdydd

–        Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe  

–        Mostyn, Llandudno

–        Oriel Davies, Y Drenewydd

Pa gyfleoedd a ddaw o fod yn rhan o’r project hwn?:

–        Drwy fod yn Dywysydd BSL Byddar byddwch yn galluogi pobl Fyddar i fwynhau profiadau diwylliannol.

–        Bydd yn agor drysau i gyfleoedd gyrfa mewn twristiaieth, lletygarwch, addysg ac eiriolaeth. 

–        Bod yn lais dros hygyrchedd Byddar, gan greu byd mwy cynhwysol lle mae BSL yn weladwy. 

Pam Dysgu i Fod yn Dywysydd Teithiau BSL:

–        Bydd y sgiliau fyddwch chi’n eu datblygu yn ddefnyddiol ar gyfer eich gwaith arall.

–        Byddwch yn dysgu sut i roi llais i ddefnyddwyr BSL Byddar gyda gwybodaeth a gwasanaethau.

–        Byddwch yn eirioli dros hygyrchedd BSL Byddar yn eich cymuned.

–        Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu ac arwain.

Mwy o wybodaeth